{
  "$type": "site.standard.document",
  "bskyPostRef": {
    "cid": "bafyreia5vvu7ufmsaofzatmjsu4u33zxrce7qutizfxcb2kdof6ft7hpxu",
    "uri": "at://did:plc:efwgaogsboydjpunkfljjqhm/app.bsky.feed.post/3mdzrta3xskz2"
  },
  "coverImage": {
    "$type": "blob",
    "ref": {
      "$link": "bafkreict54yy7bvdgliil77unqgkhpc2ogrfk4xvdmib73wx6aaerad5wm"
    },
    "mimeType": "image/jpeg",
    "size": 145843
  },
  "description": "Mae’r adnodd hwn ar gyfer Prif Swyddogion Gweithredol ac uwch reolwyr sy’n awyddus i wneud eu sefydliad yn fwy hyfyw ar gyfer cyllid grant a phobl datblygu busnes sy’n awyddus i wella ceisiadau cyllido sy’n cynnwys costau digidol.",
  "path": "/cyllido-ar-gyfer-digidol-9-ffordd-i-wneud-eich-sefydliad-yn-fwy-deniadol-i-gyllidwyr/",
  "publishedAt": "2026-02-04T11:34:51.000Z",
  "site": "https://www.newid.cymru",
  "tags": [
    "Darllenwch y telerau.",
    "3 math o gyllid digidol",
    "canllawiau ar ymchwil defnyddwyr",
    "Cyllidebu ar Gyfer Digidol Rhan 1: Sut i ddeall eich costau digidol cyfredol.",
    "nodwch y sgiliau y bydd ei angen i’w gyflawni",
    "canllaw i 5 problem gyffredin",
    "ffordd o ddefnyddio galwadau fideo fel bod pethau’n haws i bobl niwroamrywiol.",
    "ysgrifennu nodiadau wythnosol",
    "sut i gychwyn gweithio’n agored.",
    "dros 60 o Ganllawiau y gallwch eu copïo a’u hailddefnyddio",
    "3 math o gyllid ar gyfer costau digidol",
    "Sut i ddeall eich costau digidol cyfredol",
    "Sut i gyllidebu ar gyfer costau digidol yn y dyfodol",
    "Sut i integreiddio costau digidol i’ch cyllideb weithredu",
    "Mae ein canllaw yn esbonio pam a sut.",
    "_Dot Project_",
    "Catalyst"
  ],
  "textContent": "**Awdur: Joe Roberson; Amser Darllen: 9 munud**\nMae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.\n\nMae’r adnodd hwn ar gyfer Prif Swyddogion Gweithredol ac uwch reolwyr sy’n awyddus i wneud eu sefydliad yn fwy hyfyw ar gyfer cyllid grant a phobl datblygu busnes sy’n awyddus i wella ceisiadau cyllido sy’n cynnwys costau digidol.\n\n## Mae’n trafod:\n\n  1. Pethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i gael cyfle i gael cyllid\n  2. Pethau y gallech eu gwneud i gynyddu siawns eich cynnig\n  3. Cyngor ar yr hyn y mae cyllidwyr yn chwilio amdano o ran sut rydych chi’n disgrifio costau meddalwedd ac arbenigedd allanol\n\n\n\n## Ynglŷn â’r canllaw hwn\n\nBydd y canllaw yma yn eich helpu i fod yn llwyddiannus i ariannu costau digidol eich sefydliad. Mae’n berthnasol i bob un o’r 3 math o gyllid digidol:\n\n  1. **Costau digidol craidd** (ar draws y sefydliad, yn torri ar draws timau)\n  2. **Darparu gwasanaethau hybrid** (rhannol ddigidol, rhannol wyneb yn wyneb)\n  3. **Darparu gwasanaethau digidol yn gyntaf**(digidol neu o bell yn bennaf, hyd yn oed os yw pobl yn cymryd rhan y tu ôl i’r llenni)\n\n\n\nMae rhai awgrymiadau’n gyffredin i unrhyw gynnig. Y gamp yw cymhwyso eu cyngor i gyd-destun digidol.\n\nOs ydych chi eisoes yn gwneud y pethau hyn yna ystyriwch sut y gallech chi wella.\n\nBydd eu gwneud hefyd yn eich gosod mewn sefyllfa well i ddefnyddio unrhyw gyllid yn effeithiol. Mae hyn yn ei dro yn arwain at ganlyniadau gwell, adrodd gwell a mwy o siawns i gael cyllid yn y dyfodol.\n\n* * *\n\n## Tri pheth y mae’n rhaideu gwneud\n\n### Camau paratoi hanfodol sy’n dangos bod gan eich sefydliad brosesau da.\n\n#### 1. Deall pam rydych chi eisiau cyllid\n\nNi allwch esbonio eich angen i gyllidwr os nad ydych chi’n ei ddeall eich hun.\n\nY ffordd orau i ddeall yw cynnal ymchwil defnyddwyr. Yn dibynnu ar yr angen sylfaenol am gyllid, efallai yr hoffech ymchwilio gyda:\n\n  * Y bobl rydych chi’n eu cefnogi\n  * Staff rheng flaen\n  * Rhanddeiliaid mewnol eraill sydd ag anghenion perthnasol\n\n\n\nGallwch ddefnyddio ein canllawiau ar ymchwil defnyddwyr ar gyfer unrhyw un o’r grwpiau yma.\n\nYna, dywedwch y stori pam mae angen y gost ddigidol. Eglurwch yr angen o safbwynt y bobl sy’n defnyddio eich gwasanaethau. Nodwch sut y bydd o fudd iddynt, hyd yn oed os mai dim ond staff mewnol fydd yn ei ddefnyddio (er enghraifft, CRM).\n\n#### 2. Costau ymchwil\n\nRydym yn aml yn gweld sefydliadau’n defnyddio ffigur bras yn seiliedig ar gyngor un person. Mae hyn yn tueddu i arwain at gyllideb annigonol i wneud rhywbeth yn dda. Boed hynny’n angen ymchwilio’n iawn i feddalwedd, cymorth allanol neu swydd staff digidol mewnol hyd yn oed. Dylech chi:\n\n  * Siarad â sefydliadau tebyg am y prosesau maen nhw wedi profi er mwyn gwneud y pethau rydych chi eisiau gwneud (er enghraifft, eu gwefan newydd)\n  * Cynnal digon o ymchwil defnyddwyr i ddeall yr hyn rydych chi’n debygol o fod angen a ddim angen\n  * Cael dyfynbrisiau gan ddarparwyr yn seiliedig ar fanylion eich ymchwil defnyddwyr\n  * Archwilio costau cynnal a chadw ar gyfer unrhyw feddalwedd neu system ddigidol – fel y gallwch chi gyllidebu ymhellach i’r dyfodol\n\n\n\nMae gwneud hyn yn golygu eich bod chi’n fwy tebygol o gyllidebu’n gywir.\n\nDarllenwch Cyllidebu ar Gyfer Digidol Rhan 1: Sut i ddeall eich costau digidol cyfredol.\n\n#### 3. Cynllunio pwy fydd yn cyflawni’r gwaith\n\nBydd cynllunio’r ffordd rydych chi am gyflawni’r gwaith yn eich helpu i ysgrifennu cynnig gwell a’i gyflawni ar ôl derbyn y cyllid. Yr elfen bwysicaf o gynllunio yw pwy fydd yn cyflawni’r gwaith. Er enghraifft, ymgynghorydd digidol, darparwr CRM, asiantaeth ddigidol – tîm mewnol hyd yn oed. Nodwch pwy a siaradwch â nhw cyn creu’r cynnig. Fel hyn, gallant ymrwymo i fod ar gael i gyflawni os, a phryd, y cewch chi gyllid.\n\nYna soniwch amdanynt yn y cynnig. Nodwch os ydynt yn bartneriaid rheolaidd neu’n rhai newydd. Rhannwch y sgiliau byddant yn cynnig.\n\nOs na allwch chi nodi pwy, yna nodwch y sgiliau y bydd ei angen i’w gyflawni o leiaf. Er enghraifft, bydd cael cynllun i uwchsgilio rheolwr prosiect i gynnal prosiect digidol yn dangos i gyllidwr eich bod yn ystyried anghenion hirdymor eich sefydliad.\n\n* * *\n\n## Chwe pheth y gallech chi eu gwneud\n\n### Nid yw’r camau hyn yn hanfodol, ond bydd pob un yn creu cynnig mwy cystadleuol.\n\n#### 1. Buddsoddi yn eich gwefan\n\nOs yw eich cynnig yn dda yna bydd yr asesydd yn siŵr o ymweld â’ch gwefan.\n\n__“Dylech chi, ac unrhyw ymwelwyr, feddwl am eich gwefan fel adnodd darparu gwasanaeth”__ – Cat Ainsworth, Dot Project\n\nRhowch ofal i’ch gwefan. Dylai ganolbwyntio ar y bobl rydych chi’n eu cefnogi.\n\nSicrhewch ei fod yn adlewyrchu dull digidol eich sefydliad hefyd. Rhaid trwsio unrhyw ddolenni sydd wedi torri a sicrhau bod y prif dudalennau’n hawdd i’w darganfod a’u llywio. Defnyddiwch ein canllaw i 5 problem gyffredin.\n\nYna trafodwch sut rydych chi’n rheoli eich safle yn eich cynnig – er enghraifft, soniwch sut rydych chi’n buddsoddi ynddo ar hyn o bryd.\n\n#### 2. Arian cyfatebol\n\nMae rhannu costau bob amser yn ddeniadol i gyllidwyr. Os yw eich ymchwil yn awgrymu y bydd eich costau digidol yn sylweddol, neu y gallent ffurfio rhan fawr o’ch cyllideb, yna dylech ystyried arian cyfatebol. Gallai hyn fod o gronfeydd wrth gefn neu ffynhonnell ariannu arall.\n\nBydd gwneud hyn yn lleihau unrhyw risg wedi’i ganfod gan y cyllidwr yn syth. Bydd hefyd yn eich helpu i fod yn ddewr ac yn hyderus yn yr hyn rydych chi’n gofyn amdano.\n\n#### 3. Arddangos eich straeon newid digidol\n\nMae’r sector dielw yn tueddu i fod yn dda’n arloesi am fod rhaid iddo. Pobl sydd fel arfer yn arwain gyda meddylfryd mwyaf angerddol neu greadigol.\n\nChwiliwch am y bobl yma yn eich sefydliad. Chwiliwch am y rhai sy’n defnyddio adnoddau digidol a dangos eu gwaith. Er enghraifft, efallai eich bod wedi rhoi tabledi i dîm ac maen nhw bellach yn eu defnyddio mewn ffyrdd annisgwyl. Neu efallai eu bod wedi datblygu pethau arloesol eraill – fel ffordd o ddefnyddio galwadau fideo fel bod pethau’n haws i bobl niwroamrywiol.\n\nMae gwneud hyn yn dangos eich bod eisoes ar daith o newid digidol ac yn meddwl amdano ar draws eich sefydliad.\n\n#### 4. Ysgrifennu’n agored am eich gwaith digidol\n\nMae rhannu eich gwaith yn gyhoeddus yn cynyddu tryloywder ac yn annog mewnbwn gan eraill. Mae’n dangos i gyllidwyr eich bod wedi ymrwymo i fyfyrio ar eich gwaith a rhannu eich dysgu. Bydd ysgrifennu am sut rydych chi’n defnyddio digidol, dros amser, yn creu naratif cryf am eich taith o newid digidol. Bydd hyn yn rhoi hyder i gyllidwyr yn eich dull a’ch profiad.\n\nGallwch wneud hyn trwy rannu cynlluniau digidol sydd ar y gweill, ysgrifennu nodiadau wythnosol, a chreu storfa o adnoddau y gall unrhyw un eu cyrchu ar eich gwefan hyd yn oed. Gweler sut i gychwyn gweithio’n agored.\n\n#### 5. Dangos eich cynlluniau ‘ailddefnyddio’\n\nMae ailddefnyddio yn golygu ailddefnyddio offer, cod, cynlluniau ac adnoddau presennol sydd yn gyffredin ar gael ar y rhyngrwyd. Mae llawer o’r rhain ar gael gan fod y bobl a rannodd yn credu mewn gweithio agored.\n\nMae ailddefnyddio gwaith pobl eraill yn dangos i gyllidwyr eich bod chi:\n\n  * Yn bwriadu defnyddio eu harian mor effeithiol â phosibl\n  * Ddim yn creu rhywbeth pwrpasol pan fydd adnodd presennol yn gwneud y tro.\n\n\n\nGallech hyd yn oed fod yn copïo dulliau digidol sy’n defnyddio adnoddau cyffredin. Mae Shared Digital Guides wedi ysgrifennu dros 60 o Ganllawiau y gallwch eu copïo a’u hailddefnyddio.\n\n#### 6. Dangos gwariant digidol eich sefydliad\n\nWrth rannu cyfanswm gwariant digidol eich sefydliad gallech ddangos:\n\n  * Pa ganran o’ch cyllideb ddigidol rydych chi’n gofyn i gael ei hariannu\n  * Eich lefel ymrwymiad a phrofiad o fuddsoddi mewn digidol\n  * Eich bod yn cymryd dull strategol i ddigidol. Mae hyn yn cefnogi gweddill naratif eich cynnig.\n\n\n\n* * *\n\n## Yr hyn y mae cyllidwyr yn chwilio amdano mewn costau meddalwedd\n\n### Defnyddiwch hwn fel rhestr wirio:\n\n  * **Tystiolaeth o ddyfynbrisiau.** Mae dangos eich bod wedi mynd trwy broses amcangyfrif costau da yn meithrin hyder cyllidwyr.\n  * **Mesur y gwerth cynhyrchir** gan unrhyw adnodd neu system ddigidol newydd. Er enghraifft sawl awr o waith y flwyddyn y gallai CRM newydd ei arbed wrth greu adroddiadau. Mae cyllidwyr yn gwerthfawrogi ymdrechion i fesur.\n  * **Eich dealltwriaeth o heriau gweithredu a’r risgiau** a ddaw gydag adnoddau a phrosesau digidol newydd. Dangoswch eich ymchwil defnyddwyr, yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu gan sefydliadau eraill a sut y byddwch chi’n goresgyn unrhyw wrthwynebiad diwylliannol gan staff.\n\n\n\n* * *\n\n## Yr hyn y mae cyllidwyr yn chwilio amdano mewn costau arbenigedd allanol\n\n### Defnyddiwch hwn fel rhestr wirio:\n\n  * **Manylion newid hirdymor.** Dangoswch ddamcaniaeth glir o sut y bydd buddsoddiad allanol yn arwain at enillion mewnol hirdymor i’r sefydliad. Yna esboniwch sut y bydd hyn yn buddio’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.\n  * **Dealltwriaeth o risg.** Dangoswch eich bod wedi ystyried beth allai fynd o’i le wrth dalu am wasanaethau allanol. Yna dangoswch sut y byddwch chi’n lliniaru’r rhain trwy wirio a llywodraethu da.\n  * **Dilysu hyfywedd ariannol hirdymor** unrhyw adeiladu neu addasu. Dangoswch eich bod yn deall costau cynnal a chadw, sut y byddwch chi’n eu hariannu ac os byddwch chi’n meithrin gallu mewnol i’w reoli.\n  * **Dealltwriaeth o’r hyfforddiant sydd ei angen** i uwchsgilio staff i ddefnyddio unrhyw system newydd. Er enghraifft, nid yw prynu CRM newydd, sy’n gwneud yn union beth sydd ei angen arnoch, o unrhyw ddefnydd i chi os nad ydych chi’n gwybod sut i’w ddefnyddio. Felly cofiwch gynnwys costau hyfforddi.\n\n\n\n* * *\n\n## Arbed amser: crëwch ddatganiadau sut rydych chi’n defnyddio digidol y gellir eu hailddefnyddio\n\nAr ôl ysgrifennu eich cynnig cyntaf, edrychwch os oes unrhyw elfennau craidd gellir eu hailddefnyddio. Efallai ei fod yn ymadrodd sy’n disgrifio dull eich sefydliad, neu set o fwledi sy’n dangos yr hyn rydych chi wedi’i wneud yn y 3 blynedd diwethaf. Neu efallai ei fod yn ddatganiad am arbenigedd mewnol.\n\nDarganfyddwch y cydrannau yma a’u defnyddio yn eich cynnig nesaf. Addaswch yn ôl yr angen ar gyfer y cyd-destun.\n\n#### Gwybodaeth bellach\n\nCyn i chi roi’r cyngor yma ar waith, ewch ati i ddeall y 3 math o gyllid ar gyfer costau digidol.\n\nDeallwch eich costau digidol craidd gyda’n cyfres 3 rhan fel y gallwch eu hintegreiddio’n well i’ch cyllideb:\n\n  1. Sut i ddeall eich costau digidol cyfredol\n  2. Sut i gyllidebu ar gyfer costau digidol yn y dyfodol\n  3. Sut i integreiddio costau digidol i’ch cyllideb weithredu\n\n\n\nAnsicr am ddangos costau digidol? Cyngor yma i benderfynu dangos costau digidol ar wahân mewn ceisiadau am gyllid grant.\n\nMae’n dda gwneud rhywfaint o waith darganfod cyn ysgrifennu cais am gyllid. Mae ein canllaw yn esbonio pam a sut.\n\n_Diolch i Cat Ainsworth o_ _Dot Project_ _am eu cyfraniad mawr at yr erthygl hon._\n\n* * *\n\nWedi'i gomisiynu gan Catalyst",
  "title": "Cyllido ar gyfer digidol: Naw ffordd i wneud eich sefydliad yn fwy deniadol i gyllidwyr",
  "updatedAt": "2026-02-04T11:34:51.808Z"
}